Yn aelod o Glybiau Bechgyn a Merched Cymru, sefydlwyd Clwb Bechgyn a Merched Penygraig a’r Cylch yn 1974 gan gymuned a oedd yn pryderu am ddyfodol ei phlant a’i phobl ifainc a chafodd ei agor gan Frankie Vaughan. Prynodd y gymuned yr hen Gapel Wesleaidd (gweler y llun ar y dde) yn Stryd Brook, Trewiliam, ac y mae’r Clwb wedi aros ar y safle hwnnw ers hynny. Y mae’r Clwb Bechgyn a Merched wedi datblygu’n ganolbwynt ar gyfer plant a phobl ifainc Penygraig a Threwiliam ac i drigolion yr ardal o’i gwmpas.
Mabwysiadodd y Clwb ei gyfansoddiad cyntaf yn 1983 dan yr enw Clwb Bechgyn Penygraig a daeth yn elusen gofrestredig ychydig o flynyddoedd ar ôl hynny. Wedyn, derbyniodd y Clwb ganiatâd y Comisiwn elusennol i fabwysiadu’r enw Clwb Bechgyn a Merched Penygraig a’r Cylch ac i newid cymal 2 yn 2003 er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Yn 2006 caeodd y clwb am 10 mis tra oedd gwaith adnewyddu yn cael ei wneud. Cafodd ei ailagor ar 6ed Rhagfyr yr un
flwyddyn gan reolwr tîm pêl-droed Cymru, John Toshack.
Y mae gan y Clwb weledigaeth i fod y cyfleuster chwaraeon ac iechyd i bobl ifainc mwyaf effeithiol yn Rhondda Cynon
Taf.
Yn aelod o Glybiau Bechgyn a Merched Cymru, sefydlwyd Clwb Bechgyn a Merched Penygraig a’r Cylch yn 1974 gan gymuned a oedd yn pryderu am ddyfodol ei phlant a’i phobl ifainc a chafodd ei agor gan Frankie Vaughan. Prynodd y gymuned yr hen Gapel Wesleaidd (gweler y llun ar y dde) yn Stryd Brook, Trewiliam, ac y mae’r Clwb wedi aros ar y safle hwnnw ers hynny. Y mae’r Clwb Bechgyn a Merched wedi datblygu’n ganolbwynt ar gyfer plant a phobl ifainc Penygraig a Threwiliam ac i drigolion yr ardal o’i gwmpas.
Mabwysiadodd y Clwb ei gyfansoddiad cyntaf yn 1983 dan yr enw Clwb Bechgyn Penygraig a daeth yn elusen gofrestredig ychydig o flynyddoedd ar ôl hynny. Wedyn, derbyniodd y Clwb ganiatâd y Comisiwn elusennol i fabwysiadu’r enw Clwb Bechgyn a Merched Penygraig a’r Cylch ac i newid cymal 2 yn 2003 er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Y mae gan y Clwb weledigaeth i fod y cyfleuster chwaraeon ac iechyd i bobl ifainc mwyaf effeithiol yn Rhondda Cynon Taf.
Ers iddo gael ei sefydlu, y mae’r Clwb wedi’i gynnal gan grwp o wirfoddolwyr ymrwymedig y gymuned sydd yn rhoi llawer i’r Clwb a’i aelodau ac, er nad ydynt yn derbyn unrhyw beth o safbwynt ariannol, y maent yn cael llawer o fudd personol o ganlyniad i’n helpu. Y mae’r Clwb hefyd yn cynnig rhywfaint o ddatblygiad personol i’r gwirfoddolwyr sydd ei angen.
Y mae saith o’r gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi hyd at NVQ Lefel 2 mewn gwaith ieuenctid, y mae 10 hyfforddwr pêl-droed wedi’u hyfforddi yn unol â safonau Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac y mae 3 hyfforddwr wedi’u hyfforddi yn unol â safonau Cymdeithas Bêl-Rwyd Cymru.
Yr ydym yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth i amrywiaeth o ddefnyddwyr gwasanaeth er bod y mwyafrif o waith yr
elusen yn cynnwys plant a phobl ifainc.
Yn draddodiadol, yr oedd y Clwb wedi darparu’r cyfle i’w ddefnyddwyr chwarae chwaraeon, yn enwedig pêl-droed. Wrth
gadw at y traddodiad hwn, y mae’r Clwb yn cynnig y cyfle i chwarae pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, tenis fwrdd, pwl
a snwcer. Y mae gennym ddau dîm pêl-droed dan 9 oed, dau dîm dan 11 oed, un tîm dan 13 oed, un tîm dan 15 oed, un
tîm dan 17 oed a dau dîm i ferched. Hefyd, y mae gennym tri tîm pêl-rwyd. Y mae gennym 180 o aelodau llawn a dros
100 sydd yn defnyddio’r Clwb o bryd i’w gilydd.
Y mae cyfleusterau’r Clwb ar gael ar gyfer partïon plant.
Y mae’r Clwb yn credu ei fod ei gynhaliaeth hir dymor yn dibynnu ar ymrwymiad a sgiliau ei wirfoddolwyr. Felly, y
mae’r Clwb wedi datblygu Cynllun Meithrin Galluoedd sydd wedi’i anelu at greu gweithlu o wirfoddolwyr medrus sydd yn
gallu rheoli’r Clwb yn effeithiol ar ôl i’r adnewyddiadau gael eu cwblhau. Y mae’r Cynllun Meithrin Galluoedd yn
cynnwys hyfforddiant ar gyfer y Pwyllgor Rheoli/Ymddiriedolwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gallu deall eu
cyfrifoldebau, yn gallu gwneud penderfyniadau call ac yn gallu datblygu strategaeth hir dymor ar gyfer y Clwb. Y mae
hefyd yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr fel y gall y Clwb ddatblygu mentrau a fydd yn cael effaith hir
dymor.
Bydd ‘Ffocws’ yn creu sefydliad hunangynhaliol, a fydd yn gallu gwneud penderfyniadau effeithiol am ei ddyfodol, heb
fod yn ddibynnol ar gyllid allanol ar gyfer ei ddyfodol.