|
|
|
| Prif Safle | Amdanom Ni | Plant Heini | Y Dyfodol | Lluniau | Helpwch Ni? | Cysylltu | Dolenni | English |
Yn aelod o Glybiau Bechgyn a Merched Cymru, sefydlwyd Clwb Bechgyn a Merched Penygraig a’r Cylch yn 1974 gan gymuned a oedd yn pryderu am ddyfodol ei phlant a’i phobl ifainc a chafodd ei agor gan Frankie Vaughan. Prynodd y gymuned yr hen Gapel Wesleaidd (gweler y llun ar y dde) yn Stryd Brook, Trewiliam, ac y mae’r Clwb wedi aros ar y safle hwnnw ers hynny. Y mae’r Clwb Bechgyn a Merched wedi datblygu’n ganolbwynt ar gyfer plant a phobl ifainc Penygraig a Threwiliam ac i drigolion yr ardal o’i gwmpas. Mabwysiadodd y Clwb ei gyfansoddiad cyntaf yn 1983 dan yr enw Clwb Bechgyn Penygraig a daeth yn elusen gofrestredig ychydig o flynyddoedd ar ôl hynny. Wedyn, derbyniodd y Clwb ganiatâd y Comisiwn elusennol i fabwysiadu’r enw Clwb Bechgyn a Merched Penygraig a’r Cylch ac i newid cymal 2 yn 2003 er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb. Y mae gan y Clwb weledigaeth i fod y cyfleuster chwaraeon ac iechyd i bobl ifainc mwyaf effeithiol yn Rhondda Cynon Taf. Ers iddo gael ei sefydlu, y mae’r Clwb wedi’i gynnal gan grwp o wirfoddolwyr ymrwymedig y gymuned sydd yn rhoi llawer i’r Clwb a’i aelodau ac, er nad ydynt yn derbyn unrhyw beth o safbwynt ariannol, y maent yn cael llawer o fudd personol o ganlyniad i’n helpu. Y mae’r Clwb hefyd yn cynnig rhywfaint o ddatblygiad personol i’r gwirfoddolwyr sydd ei angen. Y mae saith o’r gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi hyd at NVQ Lefel 2 mewn gwaith ieuenctid, y mae 10 hyfforddwr pêl-droed wedi’u hyfforddi yn unol â safonau Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac y mae 3 hyfforddwr wedi’u hyfforddi yn unol â safonau Cymdeithas Bêl-Rwyd Cymru. Yr ydym yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth i amrywiaeth o ddefnyddwyr gwasanaeth er bod y mwyafrif o waith yr elusen yn cynnwys plant a phobl ifainc.
Y mae cyfleusterau’r Clwb ar gael ar gyfer partïon plant. Y mae’r Clwb yn credu ei fod ei gynhaliaeth hir dymor yn dibynnu ar ymrwymiad a sgiliau ei wirfoddolwyr. Felly, y mae’r Clwb wedi datblygu Cynllun Meithrin Galluoedd sydd wedi’i anelu at greu gweithlu o wirfoddolwyr medrus sydd yn gallu rheoli’r Clwb yn effeithiol ar ôl i’r adnewyddiadau gael eu cwblhau. Y mae’r Cynllun Meithrin Galluoedd yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer y Pwyllgor Rheoli/Ymddiriedolwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gallu deall eu cyfrifoldebau, yn gallu gwneud penderfyniadau call ac yn gallu datblygu strategaeth hir dymor ar gyfer y Clwb. Y mae hefyd yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr fel y gall y Clwb ddatblygu mentrau a fydd yn cael effaith hir dymor. Bydd ‘Ffocws’ yn creu sefydliad hunangynhaliol, a fydd yn gallu gwneud penderfyniadau effeithiol am ei ddyfodol, heb fod yn ddibynnol ar gyllid allanol ar gyfer ei ddyfodol. |
| Prif Safle | Amdanom Ni | Plant Heini | Y Dyfodol | Lluniau | Helpwch Ni? | Cysylltu | Dolenni | English |