Clwb Bechgyn a Merched Penygraig Penygraig Boys & Girls Club Logo
  • Prif Safle
  • Plant Heini
  • Y Dyfodol
  • LLuniau
  • Helpwch ni?
  • Cysylltu
  • Dolenni
  • English
  • Oriau Agor

    Y mae’r Clwb ar agor 6.00yh – 8.30yh, Ddydd Llun i Ddydd Iau, a 5.00yh – 7.30yh ar Ddydd Gwener

    Manylion Cysylltu

    Yr Hen capel
    Brook Street
    Trewiliam
    Tonypandy
    Rhondda Cynon Taf
    CF40 1RB
    T: 01443 433222

    Elusen Gofrestredig

    Clwb Bechgyn a Merched Penygraig Elusen Gofrestredig Rhif: 1005301

    Ein Dyfodol

    Er gwaethaf yr holl waith da sydd yn digwydd yn y clwb roedd cyflwr yr adeilad yn peryglu ei ddyfodol. Mae ymrwymiad o fewn y clwb yn gryf iawn felly, yn hytrach na derbyn yr anochel, datblygodd yr ymddiriedolwyr a’r gwirfoddolwyr y cynllun 'FOCUS'.

    Ffoto: Aelodau’r gymuned leol yn helpu’r clwb Mae 'FOCUS' yn strategaeth sydd wedi’i hanelu at ddiogelu cyllid er mwyn ailddatblygu’r adeilad at ddefnydd y gymuned ehangach a diogelu ei gynaladwyedd hir dymor.

    Cafodd y cyllid £730,000 a dderbyniwyd gan Raglen Ewropeaidd Amcan Un ei gyfateb gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac felly, roedd yn bosib prynu’r safle tir llwyd y drws nesaf a’i droi’n faes parcio oddi ar y stryd sydd yn galluogi mynediad ar gyfer pobl anabl ac ardal chwarae wedi’i amgylchynu gan ffens. Adnewyddwyd y clwb yn helaeth ac ategwyd estyniad a thrydydd llawr.

    Mae’r trydydd llawr newydd yn cynnwys tair swyddfa ac ystafell gyfarfod/gynhadledd a fydd ar gael i’w llogi, campfa a swît cyfrifiaduron.

    Defnyddiwyd ystod o wybodaeth wrth gynllunio 'FOCUS'. Roedd hyn yn cynnwys data gan Bartneriaeth Adfywio Rhanbarth Penygraig, Cymunedau’n Gyntaf, Mynegrif Amddifadedd Lluosog Cymru a chynlluniau datblygu lleol a rhanbarthol eraill fel Cynllun Adnewyddu Strategol ac astudiaeth dichonoldeb.

    Ffoto: Ffotograff o’r adeilad cyn y gwaith adnewyddu
    Ffotograff o’r adeilad cyn y gwaith adnewyddu
    Ffoto: Yr adeilad ar ôl gorffen y gwaith adnewyddu
    Yr adeilad ar ôl gorffen y gwaith adnewyddu
    Ffoto: Y safle tir llwyd a ddaeth yn faes parcio ac ardal chwarae
    Y safle tir llwyd a ddaeth yn faes parcio ac ardal chwarae
    Ffoto: Yr ardal chwarae newydd
    Yr ardal chwarae newydd


    Dylunir a threfnir y gwe-le hwn gan 29internet.com © 2005.
    This website is designed and maintained by 29internet.com © 2005.