Penygraig Boys & Girls Club Logo Penygraig Boys & Girls Club Logo Penygraig Boys & Girls Club Logo
Prif Safle Amdanom Ni Plant Heini Y Dyfodol Lluniau Helpwch Ni? Cysylltu Dolenni English

Y mae Mynegai Amlamddifadedd Cymru (WIMD) yn ystyried ward etholiadol Penygraig a Threwiliam yn un o’r 15 o’r ardaloedd gwaethaf yng Nghymru am ffitrwydd ac iechyd. Y mae’r broblem yn un hir dymor sydd yn rhychwantu’r cenhedloedd.

Yr oedd Clwb Bechgyn a Merched Penygraig wedi darparu ystod eang o wasanaethau i blant a phobl ifainc yr ardal gan gynnwys gweithdai celf a cherddoriaeth, clwb ieuenctid ac amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon.

Children playing pool Fel prif ddarparwr cyfleoedd chwaraeon i blant a phobl ifainc y rhanbarth, y mae’r Clwb yn credu ei fod mewn sefyllfa berffaith i gynnig rhaglen byw yn iach gynhwysfawr i’r bobl ifainc hynny.

Bydd y rhaglen hon yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud yn barod trwy ddarpariaeth chwaraeon gan ganolbwyntio ar feysydd fel bwyta’n iach, sut i gadw’n iach os nad ydych yn hoffi gwneud ymarfer corff, deall y corff, iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau a materion eraill yn ymwneud ag iechyd.

Bydd y rhaglen yn cael ei rhannu’n ddwy – ‘Cadwch yn Heini’, wedi’i hanelu at rai dan 13 oed a ‘Plant Heini’ – wedi’i hanelu at y rhai dros 14 oed. Bydd ‘Cadwch yn Heini’ yn ffrydio i’r cynllun ‘Plant Heini’ ehangach.

Bydd ‘Cadwch yn Heini’ yn annog plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sydd yn hyrwyddo ymarfer corff a datblygu ystwythder echddygol ayb.

Bydd ‘Plant Heini’ yn adeiladu ar y gwaith hwn tra yn cynnig cyngor a gwybodaeth gynhwysfawr ar fyw yn iach.

Y mae’r cynllun yn effeithiol am ei fod yn ystyried y safbwynt hir dymor, yn rhoi gwybodaeth i blant fabwysiadu ymarferion iach a’u cadw am weddill eu bywyd. Dyma’r cam cyntaf i ymdrin â phroblemau rhwng cenedlaethau a’r tuedd i ymarferion gwael gael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r genhedlaeth nesaf. Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn amgylchedd hwylus ac mewn ffordd sydd yn sensitif i anghenion y plant.

Prif Safle Amdanom Ni Plant Heini Y Dyfodol Lluniau Helpwch Ni? Cysylltu Dolenni English

Penygraig and District Boys' & Girls' Club Registered Charity Number: 1005301


Dylunir a threfnir y gwe-le hwn gan AiGN © 2005.
This website is designed and maintained by AiGN © 2005.