|
|
|
| Prif Safle | Amdanom Ni | Plant Heini | Y Dyfodol | Lluniau | Helpwch Ni? | Cysylltu | Dolenni | English |
| Y DYFODOL | |
|
Er gwaethaf yr holl waith da sydd yn cael ei wneud yn y Clwb, y mae cyflwr yr adeilad yn peryglu ei ddyfodol. Y mae angen trwsio sawl peth ar yr adeilad gan gynnwys cael to newydd, llawr newydd i’r neuadd hamdden a mynedfa ar gyfer pobl anabl. Bydd hyn yn costio tua £700,000. Y mae ymrwymiad o fewn y Clwb yn gryf. Yn hytrach na derbyn y sefyllfa, y mae’r ymddiriedolwyr a’r gwirfoddolwyr wedi datblygu ‘Ffocws’. Y mae ‘Ffocws’ yn strategaeth sydd wedi’i anelu at ddiogelu cyllid er mwyn ailddatblygu yr adeilad at ddefnydd y gymuned gyfan a diogelu ei gynhaliaeth hir dymor. Y mae’r Clwb hefyd yn gobeithio prynu’r tir cyferbyn â’r adeilad gan droi’r anialwch yn chwaraele. Bydd yr islawr yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer y clwb ieuenctid yn ogystal â chael ei ddefnyddio fel caffi cymunedol newydd. Bydd y llawr isaf, ar hyn o bryd y neuadd hamdden, yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon yn ogystal â chael ei adnewyddu ar gyfer cynnal cyfarfodydd a chynadleddau. Bydd y llawr newydd yn cynnwys swyddfeydd y clwb, ystafelloedd adnoddau amlddefnydd a swyddfeydd a fydd ar gael i’w llogi. Y mae ystod eang o’r wybodaeth sydd ar gael wedi’i defnyddio wrth gynllunio ‘Ffocws’. Y mae hyn yn cynnwys yr holl ddata oddi wrth Partneriaeth Adnewyddu Penygraig a’r Cylch, Mynegai Amlamddifadedd Cymru, Amcan 1 a chynlluniau datblygu lleol a rhanbarthol eraill fel y Cynllun Adnewyddu Strategol ac astudiaeth ddichonoldeb.
|
|
| Prif Safle | Amdanom Ni | Plant Heini | Y Dyfodol | Lluniau | Helpwch Ni? | Cysylltu | Dolenni | English |